Adeiladwyr wedi'u gwarantu yn diogelu y cyhoedd

AELOD O’R CYNULLIAD YN CEFNOGI FFEDERASIWN Y MEISTR ADEILADWYR

English

Dim ond adeiladwyr sydd wedi eu gwarantu ac yn medru cynnig sicrwydd yswiriant ar eu gwaith a all gynnig yr amddiffyniad gorau ar gyfer perchenogion tâi a’r pwrs cyhoeddus. Dyma’r neges gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB) sydd heddiw (Dydd Mercher, Rhagyfr 2il) yn cyd-weithio gydag Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, i lansio eu hymgyrch sy’n galw am gwell reolaeth o’r sector adeiladu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Joyce Watson AC, sydd wedi bod yn cyd-weithio â’r FMB ar eu hymgyrch i ddiogelu y cyhoedd rhag masnachwyr gwalch : “Gan nad yw’r diwydiant adeiladu, i raddau helaeth, wedi’w reoleiddio, gall unrhyw un ddechrau cwmni adeiladu ac er fod rhai yn bwriadu’n dda, gall hyn arwain at bob math o broblemau. Mae gan gwledydd eraill system gofrestru ar gyfer adeiladwyr, ond yn anffodus, yma yng Nghymru does dim. Felly, mae gofyn edrych am ffyrdd eraill o ddiogelu perchenogion tâi, yn ogystal a’r pwrs cyhoeddus.

“Un man lle dylir ei archwilio yw’r defnydd o gwarantiadau ar holl waith cymorth-grant. Yn bresennol y mae Awrdurdodau Lleol yn gofyn am tystysgrifau a gwarantiadau ar holl waith i ymwneud â thrydan, nwy, cwrs atal lleithder a chyfarpar gosod megis lifftiau staer, ond nid yw’r gorfod yno wrth ystyried gwaith adeiladu. Mae peryg felly nad oes diogelwch yma ar arian perchenogion tâi a’r cyhoedd”

Mynegodd Richard Jenkins, Cyfarwyddwr Ffederasiwn y Mesitr Adeiladwyr yng Nghymru : “Fel cymdeithas masnach, fe all y Ffederasiwn fynd rhyw ffordd er mwyn sicrhau y bod unrhyw achosion sy’n codi yn ystod prosiect adeiladu yn cael eu deilio â, ond y ffordd gorau i berchenogion tâi a chorfforaethau sector cyhoeddus ddiogelu eu hunain yw i ddefnyddio cwmni a all gynnig gwarantiad ar y gwaith y maent yn eu ymgymryd.”

Ychwanegodd David Hill, Cyfarwyddwr Cofrestr Genedlaethol o Adeiladwyr wedi eu Gwarantu (NRWB) : “Mae gan aelodau’r FMB sydd wedi bod mewn busnes am o leiaf tair blynedd y dewis i ymuno â’r Cofrestr Genedlaethol o Adeiladwyr wedi eu Gwarantu (NRWB) ac felly cynnig gwarantiad cost-effeithiol MasterBond i clientiaid. Er mwyn ymuno â NRWB, mae’n hanfodol fod gwaith aelodau’r FMB wedi’w arolygu, ac yn cael ei ail-arolygu pob tair mlynedd. Yna mae’r gwarantiad yn diogelu y blaendaliad sydd wedi’w osod ar y gwaith adeiladu, y gwaith ei hun rhag problemau adeiladwaith, yn ogystal a problemau gwaith crefft yn y dyfodol am gyfnod o ddwy i 10 mlynedd, gan ddibynnu ar gwarantiad a ddewisir. Yng Ngogledd Iwerddon, mae y Weithrediaeth Tâi, sy’n gyfrifol am reoli gwaith adeiladu a gwaith cynnal tâi cymdeithasol, yn mynnu mai dim ond adeiladwyr a all gynnig gwarantiadau sy’n cael eu cyflogi. Y maent wedi darganfod yng Ngogledd Iwerddon fod y gofyn yma nid yn unig wedi torri lawr yn sylweddol ar y swm o arian a oedd yn cael ei golli, ond hefyd ar y nifer o gwynion ac anghydfodau yn gyffredinol.”