Bywgraffiad Joyce

English
Etholwyd Joyce i’r Cynulliad ym Mai 2007. Mae ganddi gysylltiadau cryf efo Chanolbarth a Gorllewin Cymru ac mae hi wedi gwasanaethu ei chymuned am gynifer o flynyddoedd.

Mae Joyce yn briod ac mae ganddi dri o blant ac un ŵyr.

Mynychodd Joyce ysgolion Manorbyr a Cosherton ac Ysgol Gyfun Aberteifi. Mae hi wedi rhedeg nifer o fusnesau, yn cynnwys tafarnau, bwytai a adeiladau masnach yng Ngeredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Yn 1990, aeth Joyce i Goleg Sir Benfro, yna yn 1993 darllenodd hi Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio gydag anrhydedd tra’n rhedeg ymgyrch Seneddol lwyddiannus y Blaid Lafur ym Mhreseli Penfro.

Bu Joyce yn weithgar yn y Blaid Lafur ers yn oedolyn ac roedd hi yn arweinydd y grŵp ar Gyngor Sir Benfro am chwe mlynedd. Hi oedd yr unig aelod benywaidd ar Gyngor Sir Benfro yn cynrychioli ward yn etholaeth Preseli Penfro rhwng 1995 a 2005. Roedd Joyce yn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys a Grŵp Gweithredu Cynllun Gofodol Sir Benfro. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cyfiawnder cymdeithasol fel Prosiect Ieuenctid y Garth, lle mae yn gadeirydd.

Roedd Joyce yn rheolwr Clymblaid Cenedlaethol Merched Cymru a hefyd yn aelod o Grŵp Cyfeiriadol Cydraddoldeb y GIG.

Mae Joyce yn ddysgwr Cymraeg ac addysgwyd ei phlant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel Aelod Cynulliad mae Joyce wedi chwarae rhan weithgar mewn nifer o ymgyrchoedd amlwg dros ei etholwyr yn Canolbarth a Gorllewin Cymru a dros holl Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys lansio ymgyrch Merched yn Adeiladaeth; ymgyrch i dwyn sylw i'r risg o bwysedd gwaed uchel heb ei ddarganfod a’r risg o Strôc; ymgyrch i newid deddfau cynllunio yng Nghymru i ddelio a’r broblem o orlifo dŵr arwyneb trwy Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol. Ar y 25ain o Fai 2010, fel Cadeirydd o’r Grŵp Draws-Blaid ar y Trafnidiaeth o Menywod a Phlant, wnaeth Joyce cyhoeddi adroddiad a enwyd ‘Atebion Lleol i Droseddau Rhyngwladol: Trafnidio Menywod a Phlant yng Nghymru 2010.
Mae Joyce yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb Cyfleoedd, y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, y Pwyllgor Cynaliadwyedd, Pwyllgor Deddfwriaeth 3 ac yn cadeirydd yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig. Hefyd, mae Joyce yn lefarydd y Blaid Lafur ar Faterion Gwledig yn y Cynulliad ac yn aelod o’r Cynulliad Seneddol Prydeinig Iwerydd. Sefydlodd Joyce ac mae yn gadeirydd y Grŵp Traws Blaid ar Fasnachu mewn Merched a Phlant. Yn ychwanegol, mae Joyce yn Ddirprwy Gadeirydd o’r Grŵp Traws Blaid dros Plant dan Olygaeth.

Ymysg ei ddiddordebau gwleidyddol mae Datblygiad Economaidd, Llywodraeth Leol a Cydraddoldeb, Trafnidiaeth Gwledig a Diogelwch Heolydd.