Amdanom Joyce



Wedi’i hethol ym mis Mai 2007, mae gan Joyce Watson gysylltiadau cadarn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae wedi gwasanaethu yn ei chymuned am flynyddoedd.


Mae hi’n briod â Colin ac mae ganddynt dri o blant, Heather, Fiona a William.


Addysgwyd Joyce yn Ysgol Maenorbyr ac Ysgol Gyfun Aberteifi. Mae hi wedi cynnal sawl busnes, yn cynnwys rhedeg tafarndai, bwytai a siopau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.


Ym 1990 fe aeth i Goleg Sir Benfro, yna ym 1993 astudiodd Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill gradd anrhydedd tra’n cynnal ymgyrch seneddol lwyddiannus y Blaid Lafur ym Mhreseli a Sir Benfro.


Mae hi wedi bod yn weithgar yn y Blaid Lafur erioed, ac mae hi wedi bod yn arweinydd y grwp Llafur ar Gyngor Sir Benfro. Yr oedd yn aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys y a gweithgor Cynllun Gofodol Sir Benfro. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau cyfiawnder cymdeithasol megis prosiect Ieuenctid Garth sydd wedi ennill gwobrau, ac mae hi’n ei gadeirio.


Yr oedd Joyce yn rheolwr Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru gyda chylch gwaith trwy Gymru gyfan a ‘roedd yn uwch aelod o’r Grwp Cyllidebau ar Sail Rhyw, Cymru a Grwp Cyfeirio Cydraddoldeb y GIG.


Mae hi wedi dysgu Cymraeg, ac addysgwyd ei phlant mewn ysgolion Cymraeg.

yn y Cynulliad. Mae Joyce hefyd yn llefarydd ar Faterion Gwledig dros y Blaid Lafur yn y Cynulliad, yn aelod o’r Corff Cydseneddol Prydeinig Gwyddelig ac yn Is-Gadeirydd y grwp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta. Mae hi hefyd yn Gadeirydd y grwp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Merched a Phlant ac yn Is-Gadeirydd y grwp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal.

Ymhlith ei diddordebau gwleidyddol mae Datblygu Economaidd, Llywodraeth Leol a Chydraddoldebau, trafnidiaeth yng nghefn gwlad a diogelwch y ffyrdd.


-